Annwyl gyfaill
Heddiw lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar agweddau yn ymwneud â’r gweithlu o fewn cam 2 y broses o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith.
Mae’r Ddeddf yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol sy’n amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal a chymorth diogel, perthnasol, gydag urddas.
Rydym yn ymgynghori ynghylch cynigion yn ymwneud â recriwtio, cadw gweithwyr ac arferion gwaith yn y sector gofal cartref, er mwyn ei helpu i ddarparu gofal o’r ansawdd gorau posib.
Mae’r rheoliadau drafft:
· yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth cartref wahaniaethu rhwng amser teithio ac amser gofal
· a rhoi dewis arall yn lle contractau dim oriau i staff gofal cartref
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am sylwadau ynghylch y canlynol:
· agor y gofrestr gweithwyr cymdeithasol i’r rhai sy’n gyflogedig mewn gwasanaethau cymorth cartref o 2018 ymlaen
· sut y gallwn roi sylw i heriau presennol o ran recriwtio a chadw rheolwyr gofal cymdeithasol hyfforddedig.
Rydym yn cynnal digwyddiadau rhannu gwybodaeth:
· Caerdydd – 21 Mehefin 2017
· Wrecsam – 13 Gorffennaf 2017
Er mwyn bod yn bresennol, cysylltwch â RISCAct2016 erbyn 19 Mehefin (digwyddiad Caerdydd) neu 30 Mehefin (digwyddiad Wrecsam). Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, ac maent ac yn dibynnu ar argaeledd.
Mae’r ymgynghoriad ar gael yn:
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig sydd ar gael yn:
http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/riscaworkforceconsultation/?skip=1&lang=cy
Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Llun 7 Awst. Edrychwn ymlaen at glywed eich safbwyntiau.
A fyddech cystal â rhannu’r neges e-bost hon yn eich sefydliad a rhwng eich rhwydweithiau.
Diolch a chofion gorau,
Gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy
Llywodraeth Cymru